Search

Croeso i Gelfyddydau Cymunedol Ardal Rhaeadr Gwy

Rydym yn elusen annibynnol sy'n hyrwyddo cyfranogaeth yn y celfyddydau a threftadaeth

Mae Oriel ac Amgueddfa Rhaeadr ar gau ar hyn o bryd, oherwydd addasiadau cyffrous i’r adeilad ac ail gynllunio arddangosfeydd ein hamgueddfa.  Rydym yn sylweddoli y bydd llawer ohonoch yn siomedig am hyn – ond edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i brofi popeth sy’n gennym i’w gynnig!


Rydym hefyd wrthi’n adeiladu gofod arddangosfa newydd tu allan, sy’n agor yn fuan iawn ac fe fyddwch dal yn gallu mwynhau’ch treftadaeth leol cyn ein hail-agoriad.
Rydym dal yn parhau â’n hymgyrch ar-lein!  Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr, mwynhewch y wefan hon a chadwch mewn cysylltiad ar gyfryngau cymdeithasol.

Grŵp Dylunio Amgueddfa

Mae CARAD yn ailddatblygu Amgueddfa Rhaeadr er mwyn ymestyn gofod yr oriel. Rydym eisiau adeiladu ar ein ymgynghoriadau cymunedol blaenorol a chyfredol, sy’n rhoi i ni destunau newydd a syniadau diddorol i’w harchwilio. 

Fel gyda phrosiectau cymunedol llwyddiannus y gorffennol, rydym eisiau dod â grŵp o bobl sydd â diddordeb at ei gilydd i weithio gyda chynllunydd proffesiynol er mwyn dod â’r syniadau’n fyw.  Fe fyddwn yn dysgu oddi wrth ein gilydd a chreu gofod newydd gwych. 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymchwil, cynllunio gwagleoedd neu arddangosfeydd neu eisiau bod yn rhan i ddarganfod eich diddordeb, cysylltwch â ni.  Mae hwn yn gyfle cadarnhaol, sy’n edrych tuag at y dyfodol a fydd yn effaith hir dymor ar ein cymuned leol, ysgolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Rydym yn ofalus ynghlŷn â diogelwch Cofid ac fe fyddwn yn trefnu cyfarfodydd sy’n ddiogel o ran Cofid, gan ddechrau ym mis Gorffennaf yn unol â chanllawiau.
Cysylltwch â ni i ddechrau!

This website uses cookies to ensure you get the best experience.

You can view which ones and what they do by clicking this button.