Search

Gwirfoddoli gyda CARAD

Mudiad sy’n cael ei lywio gan wirfoddolwyr yw CARAD, yn cael ei gefnogi’n rhan amser gan staff cyllid, gweinyddol a phrosiect.  Cysylltwch â ni os ydych eisiau ymuno â’r tîm.
Credwn bod y celfyddydau a threftadaeth yn perthyn i’w gilydd.   Crëwyd yr elusen hon gan bobl leol ar gyfer ein  cymuned ni – gan ddefnyddio’r celfyddydau i gyfathrebu, cofnodi a dathlu eu treftadaeth a hanesion.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i bawb i gymryd rhan!
Mae swyddogaethau gwirfoddolwyr sy’n addas i nifer o ddiddordebau, a galluoedd.  Efallai bod gennych sgiliau i’w  cynnig sydd ddim ar y rhestr isod!

Fe fydd eich cymorth yn amhrisiadwy i ni ac os oes gennych awr neu ddiwrnod yn rhydd cysylltwch â ni.  Rydym yn dîm cyfeillgar a chroesawgar lle mae paned bob amser ar gael.

Swyddogaethau Gwirfoddolwyr (Darperir Hyfforddiant)

  • Gwasanaethau Cwsmeriaid a Siop
  • Garddwr
  • Marchnata a Thaflenni
  • Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefan
  • Dylunydd Graffig
  • Cymorth Swyddfa
  • Mân Swyddi a Chynnal a Chadw
  • Codi Arian
  • Cymorth Archif Amgueddfa
  • Gwneuthurwr Ffilm/Golygydd
  • Trefnydd Digwyddiadau/Cynorthwyydd
  • Dosbarthu Posteri
  • Diweddaru Gwefan/Cynllunydd
  • Stiward

This website uses cookies to ensure you get the best experience.

You can view which ones and what they do by clicking this button.