Mae CARAD yn falch i fod yn rhan o Gynllun Tir Pori Rhos a lansiwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed. Mae prosiect newydd a ariennir trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Ddatblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Fe fydd CARAD yn darparu’r celfyddydau, treftadaeth a pheth elfennau o’r cynllun sy’n ymwneud â gweithio’n agos gyda’r gymuned, gan gynnwys gweithgareddau ac arddangosfeydd. Cysylltwch â ni’n uniongyrchol neu ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed am ragor o wybodaeth.