Search

Teils Canoloesol

Ysbrydolwyd y gweithgareddau hyn gan y teils canoloesol sydd gennym yng Nghasgliad yr Amgueddfa, sy’n dod o Abaty Ystrad Fflur nepell o Raeadr.

Ychydig iawn o deils canoloesol sydd wedi goroesi hyd heddiw – yn ystod diddymiad y mynachlogydd (1536 – 1541) fe gyhoeddodd Brenin Harri’r VIII ei hun yn ben ar yr Eglwys yn Lloegr, gan gipio cyfoeth yr urddau crefyddol a oedd yn gysylltiedig ag Ewrop a’r Pab. Roedd gan abatai megis Ystrad Fflur llawer o gyfoeth, a dyna sut yr oeddynt yn gallu fforddio cymaint o’r teils prydferth yma. Mae eu goroesiad yn hynod.

Fe’u dadorchuddiwyd tra’n cloddio yn yr 1880au, gan wneud Ystrad Fflur yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid Fictorianaidd – er i nifer o’r teils gael eu cipio fel swfeniriau!

Gwnaethpwyd y teils hyn gan grefftwr teithiol yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Dros 400 can mlynedd yn ôl!

Gwnaethpwyd y rhan fwyaf o deils canoloesol allan o glai a balwyd o wely’r afon (mae’n bosib bod y clai wedi dod o Afon Teifi, sydd yn llifo yr abaty). 

Gadawyd y clai ar bwrdd tu allan dros y gaeaf fel bod y glaw, eira a rhew yn gallu trwytholchi’r amhureddau allan ohono.  Yna fe’i malwyd yn fân – gan ei droi’n bowdr mân, llyfn fel past.  Yna fe’i ffurfiwyd i wneud siâp sgwâr, a’i haddurno, naill a’i trwy gwthio mowldiau i greu patrymau, neu i beintio drostynt.  Gwyrdrowyd rhai gan ddefnyddio alcam, er mwyn creu gwahanol lliwiau, neu fe’i briddaddurnwyd yn ofalus gyda chlai o liwiau cyferbyniol. 

Rhowch gynnig ar Dechnegau Gwneud Teils Canoloesol

Os nad oes gennych glai puredig o’r afon wrth law, mae toes halen yn gweithio’n dda – mae rysáit dda ar ei gyfer yn y cyfarwyddyd crefft.  Addas ar gyfer pob oedran!

Teiliwch lawr canoloesol

Yn wreiddiol, gosodwyd y teils ar lawr yr abaty, ac ond gwestai arbennig a chôr y mynachod oedd â’r hawl i  sefyll arnynt.  Roedd eu gosod yn dasg bwysig iawn, ac mae gan nifer o’r teils patrymau sy’n “ymuno” er mwyn creu patrwm mwy.
Have a go at tiling a floor and seeing for yourself how the patterns can go.

Patrymau ar y Teils

Dyma lun o’r llawr bodoli yn Ystrad Fflur. Edrychwch yn ofalus – beth allwch chi weld?
Y Dyn â’r Drych
Mae’r ffigwr dirgel hwn wedi bod yn ganolbwynt dadl ers iddo gael ei ddarganfod ym 1800. Credwn ei fod yn dangos dyn, wedi’i wisgo yn ffasiwn y bedwaredd ganrif ar ddeg – cwfl agos, crysbais a chlogyn – yn syllu ar ei adlewyrchiad yn y drych. Gall hyn fod yn symbol o falchder, neu ymffrost. Beth ydych chi’n ei feddwl?
Y Ffleur de Lis neu’r Gellesgen
Mae hwn yn batrwm cyffredin heddiw, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer addurno. Mae’n cael ei gynnwys mewn llawer o herodraeth Ewropeaidd – arfbeisiau a baneri tai’r bonheddigion a’r tai brenhinol – ond yn enwedig yn Ffrainc. Fe’i gyfieithir fel ‘Lili’ gyda chysylltiad â phurdeb y Forwyn Fair, gan ei wneud yn boblogaidd ar gyfer addurno Abatai ac Eglwysi. Mae ei gynnwys ar lawr Ystrad Fflur yn ein hatgoffa o darddiad yr Abaty, a sylfaenwyd gan yr Arglwydd Normanaidd Robert FitzStephen. Mae’r ffleur de lis, neu’r gellesgen, yn ddolen gyswllt i’r mam-abaty yn Clairvaux yn Mwrgwyn.
Adar a Bwystfilod
Dyma un o’r teils mwyaf poblogaidd yng nghasgliad yr amgueddfa! Roedd adar yn symbol poblogaidd yn ystod y cyfnod canoloesol; ydy rhain yn edrych fel barcutiaid coch i chi ...? Mae hefyd dreigiau bach a seirff wedi’u cuddio yn y teils. Roedd gan bobl canoloesol diddordeb mewn creaduriaid mytholegol rhyfedd, gan gadw adroddiadau amdanynt mewn llyfrau enfawr o’r enw “bwystoriau” – yn aml yn priodoli gwersi moesol iddynt.
Previous slide
Next slide

Lliwiwch teils canoloesol! Mae tri i’w gwneud – maen nhw’n mynd yn fwy cymhleth ....

Rhowch gynnig ar ar y pos jig-so!

Dyma lithograff, tua 1786, o adfeilion Abaty Ystrad Fflur!

This website uses cookies to ensure you get the best experience.

You can view which ones and what they do by clicking this button.