
This website uses cookies to ensure you get the best experience.
You can view which ones and what they do by clicking this button.
Rydw i’n gweithio i CARAD fel Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr a Chyd-Gyfarwyddwr gyda Krysia Bass. Rydw i’n aelod sylfaenol o’r elusen ac wedi treulio blynyddoedd yn gweithio mewn datblygu cymunedau a’r diwydiannau creadigol. Rydw i’n artist sy’n gweithio mewn amrwyiaeth o gyfryngau. Mae gennyf ddiddordeb mewn iechyd a lles ac yn parhau i weithio gyda CARAD oherwydd y newidiadau personol a chymunedol positif rydw i wedi gweld y mudiad yn hyrwyddo. Rydw i hefyd yn cael fy ysgogi wrth weld yr effaith economaidd arwyddocaol mae celf a gwaith treftadaeth yn cael ar y gymdogaeth.
Peter Cox ydw i, dramodydd a sgrin-awdur, ac ymgodymwr swyddogol CARAD gyda’r Ddraig! Rydw i wedi ymwneud â CARAD ers 1991, ac yn Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr am 12 mlynedd. Fel Ymddiriedolwr cyfredol rydw i’n cynnig gwybodaeth ac arweiniad sector strategol ac yn gyfrifol dros faterion safle ac adeiladu, adeiladwaith arddangosfa ac yn darparu digwyddiadau.
Krysia Bass ydw i, a rydw i wedi gweithio gyda CARAD ers y dechrau mewn nifer o swyddogaethau fel gwirfoddolwr, arweinydd gweithdy, creu arddangosfeydd, ac ar hyn o bryd yn Ymddiriedolwr a Chyd-Gyfarwyddwr ochr yn ochr â Cath. Pan nad wyf yn y swyddfa, rydw i’n treulio amser yn fy rhandir neu’n printio fy ffabrig fy hun gan greu eitemau defnyddiol a lliwgar.
Trustee
Aster ydw i, Swyddog Prosiect Digidol CARAD! Rydw i’n cynnal ein cyfryngau cymdeithasol, cadw’r wefan hon yn daclus, ac yn gwneud digwyddiadau amrywiol a phrosiectau eraill hefyd – gan gynnwys bywluniadau a Chlwb y Ddraig! Pan nad wyf yn codio neu’n gwneud gwaith celf, rydw i’n cerdded neu’n treulio amser gyda fy mhedair cath. Mae gennyf uchelgais i weithio’n broffesiynol ym myd amgueddfeydd, ac ar hyn o bryd yn ymarferydd celfyddydol sy’n ymwneud â’r gymuned gyda chefndir mewn theatr a beirniadaeth ymarferol.
Trustee
Trustee
Rydw i’n cynnig cymorth gweinyddol cyffredinol i gyfarwyddwyr CARAD. Fi yw’r cyswllt cyntaf fel arfer pan mae pobl yn ffonio ac e-bostio CARAD. Pan nad wyf yn gweithio yn CARAD, rydw i’n dilyn fy niddordeb fy hun mewn athroniaeth, seicoleg ac ysbrydolrwydd. Rydw i hefyd yn therapydd cyfannol, ymarferydd a hyfforddwr cynghori.
Trustee
Trustee
Donations Gratefully Received – No PayPal Account Necessary!
CARAD, East Street, Rhayader, Powys LD6 5ER
Stryd y Dwyrain, Rhaeadr, Powys LD6 5ER
all@carad.org.uk | 01597 810 194
© CARAD 2022
Company Registered
England and Wales
3663661
Registered Charity
1073317
Cwmni Cofrestredig
Lloegr a Chymru
3663661
Elusen Cofrestredig
1073317
We are committed to keeping you safe on this website.
Please read our Privacy Notice and Cookie Policy for further details.
This website uses cookies to ensure you get the best experience.
You can view which ones and what they do by clicking this button.