Mae’r Barcutiaid Coch yn chwarae rhan amlwg yn ein hamgylchedd lleol yma yn Rhaeadr, ond nid oedd wastod fel hyn!
Oherwydd pobl yn casglu wyau (hobi poblogaidd yn ystod y rhan fwyaf o’r 20fed ganrif) ynghyd ag erledigaeth roeddynt bron wedi diflannu, ac wedi gostwng i lond llaw o barau cenhedlu. Ym 1990, roedd ond ychydig o ddwsinau o farcutiaid coch yn y DU; 30 mlynedd yn ddiweddarach mae dros 10,000. Darllenwch fwy am y llwyddiant aruthrol yma.
Mae Rhaeadr yn gartref balch i Fferm Gigrin, lle mae’r orsaf fwydo wedi bod yn allweddol yng nghadwraeth y rhywogaeth farweddog hwn. Mae bellach yn wir atyniad Cymreig i ymwelwyr ac yn werth ymweliad.