Search

Llogi Ystafell

Ydych chi’n chwilio am ofod hyblyg ar gyfer cyfarfod, gweithdy celf neu i gynnal cwrs neu ddigwyddiad?

Mae’n hadeiladau yn ddiogel o ran COFID ac yn cydymffurfio gyda chyngor diweddaraf y llywodraeth.  Mae’ch diogelwch yn bwysig i ni.

Mae CARAD yn cynnig cyfleusterau hygyrch, ac o ansawdd uchel am bris rhesymol.  Mae prisiau yn dechrau o £13 yr awr i unigolion a mudiadau lleol, £15 yr awr i unrhyw un nad yw yn lleol.  Mae gofod y theatr yn ystafell fawr gyda llawr pren â sbring sy’n mesur 35 troedfedd o hyd a 24 troedfedd o ddyfnder, mae llenni du theatraidd a llwyfannau ar gael.  Mae’r ystafell yn cymryd hyd at 25 o seddi  mewn arddull cyfarfod bwrdd, 75 o seddi mewn arddull cynhadledd.  Mae ein Hystafell Weithgarwch yn addas ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau llai, gofod golau a hwylus sydd newydd ei hadnewyddu.  Mae’n addas ar gyfer gweithdy creadigol.  Ar gyfer cyfarfodydd mae’n cymryd 12 o seddi mewn arddull cyfarfod bwrdd ac 20 o seddi mewn arddull cynhadledd.  Mae cyfleusterau cynhadledd a chyfarfod yn cynnwys taflunydd LCD a sgrin, siartiau troi, ynghyd â chyfleusterau te a choffi.  Gellir trefnu arlwyaeth, gyda chost ychwanegol.  Mae gennym hefyd Ddesg Rannu ar gael i’w logi naill ai’n hir dymor neu’n fyr tymor, gyda mynediad llawn i’r rhyngrwyd.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01597 810561 neu e-bostiwch all@carad.org.uk

This website uses cookies to ensure you get the best experience.

You can view which ones and what they do by clicking this button.