This website uses cookies to ensure you get the best experience.
You can view which ones and what they do by clicking this button.
Rydym wrth ein boddau i allu dod â gweithgareddau ar-lein trwy garedigrwydd ein hartistiaid talentog lleol. Os ydych yn cymryd rhan ar un o’r rhain rhowch wybod i ni, hoffwn eu gweld!
Mae rhain ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, ond rydym wrthi’n gweithio ar greu isdeitlau Cymraeg.
#CaradArtistOfTheMonth mis Gorffennaf, gyda’r anghymarol Jo Munton o Vabagoni Puppets, sy’n rhoi arddangosiad brwd o bypedau anhygoel sydd wedi’u huwchgylchu o blastig. O ddiddordeb i unrhyw un sydd eisiau gweld y potensial mewn pethau a fyddai’n cael eu diystyru fel arfer, grym creadigol yng ngwyneb distryw byd-eang, a’r llawenydd pur o blastig!
Mae’r arlunydd lled leol, #CaradArtistOfTheMonth ar gyfer mis Mehefin, Jill Crowther, wedi gwneud fideo ymlaciol o beintio blodau – beth am gasglu blodau a’u paentio ar y cyd â hi wrth iddi ddefnyddio paentiau, inciau a gel addurniedig i greu gellysg mynegiannol, breuddwydiol. Dull didaro i waith gorffenedig, ymlaciol.
Mae’r arlunydd lleol Lucy Burden, #CaradArtistOfTheMonth mis Mai 2021, yn mynd â ni ar daith i ddarganfod ysbrydoliaeth o’r wlad o’n cwmpas. Dilynwch hi ar ei thaith gerdded i weld pa dechnegau mae hi’n defnyddio i wneud ei gweithiau celf nodedig.
#CaradArtistOfTheMonth am fis Ebrill 2021, mae’r Jane Titley llawen yn dangos i ni dechneg wych ar gyfer gwneud cardiau post allan o brintiau a phaentiadau wedi’u hysbrydoli gan natur a deunydd wedi’i ail gylchu. Mynnwch gipolwg ar ei gwefan!
Arlunydd lleol, dramodydd, nofelydd, bardd ac anghydffurfiwr gwleidyddol, mae Meltem Arikan, #CaradArtistOfTheMonth am fi Mawrth 2021, wedi gwneud gweithdy rhyfeddol ar ddarluniau myfyriol, ysbrydoledig – wedi’i gynllunio er mwyn eich canoli ar yr hyn sydd angen arnoch a’ch ysbrydoli i’w wireddu.
Artist lleol ac un o rymoedd natur, mae Jane Mason #CaradArtistOfTheMonth am fis Chwefror 2021, yn ein harwain trwy dechnegau i ddatblygu ein mandalas hyfryd ein hunain.
Ambell i awgrym a gwybodaeth sylfaenol ar sut i greu print sborau madarch hyfryd!
Dysgwch sut i greu monoprintiau syml a hwylus HEB offer – dim ond paent, rholer (neu frwsh!) a phecyn o JELI!
Donations Gratefully Received – No PayPal Account Necessary!
CARAD, East Street, Rhayader, Powys LD6 5ER
Stryd y Dwyrain, Rhaeadr, Powys LD6 5ER
all@carad.org.uk | 01597 810 194
© CARAD 2022
Company Registered
England and Wales
3663661
Registered Charity
1073317
Cwmni Cofrestredig
Lloegr a Chymru
3663661
Elusen Cofrestredig
1073317
We are committed to keeping you safe on this website.
Please read our Privacy Notice and Cookie Policy for further details.
This website uses cookies to ensure you get the best experience.
You can view which ones and what they do by clicking this button.