Search

Amgueddfa

Mae CARAD yn ailddatblygu Amgueddfa Rhaeadr er mwyn ymestyn gofod yr oriel.  Rydym eisiau adeiladu ar ein ymgynghoriadau cymunedol blaenorol a chyfredol, sy’n rhoi i ni destunau newydd a syniadau diddorol i’w harchwilio.  Fel gyda phrosiectau cymunedol llwyddiannus y gorffennol, rydym eisiau dod â grŵp o bobl sydd â diddordeb at ei gilydd i weithio gyda chynllunydd proffesiynol er mwyn dod â’r syniadau’n fyw.  Fe fyddwn yn dysgu oddi wrth ein gilydd a chreu gofod newydd gwych.  Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymchwil, cynllunio gwagleoedd neu arddangosfeydd neu eisiau bod yn rhan i ddarganfod eich diddordeb, cysylltwch â ni.  Mae hwn yn gyfle cadarnhaol, sy’n edrych tuag at y dyfodol a fydd yn effaith hir dymor ar ein cymuned leol, ysgolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Rydym yn ofalus ynghlŷn â diogelwch Cofid ac fe fyddwn yn trefnu cyfarfodydd sy’n ddiogel o ran Cofid, gan ddechrau ym mis Gorffennaf yn unol â chanllawiau.

This website uses cookies to ensure you get the best experience.

You can view which ones and what they do by clicking this button.