Search

Amdanom ni

Mae CARAD yn cynnig man creadigol sy’n meithrin ac yn dangos treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol goludog yr ardal ac sy’n dathlu ein hardal wledig a’i hanes naturiol.  Rydym yn ceisio creu cymuned sy’n fywiog yn ddiwylliannol ac yn hydwyth.

I wneud hyn rydym:

– Yn hyrwyddo cymryd rhan mewn gweithgareddau celf a threftadaeth ar gyfer lles cymdeithasol, personol, diwylliannol a lles ehangach.

– Annog unigolion i ddatblygu a rhannu sgiliau sy’n bodoli’n barod ac yn eu hysbrydoli i ddysgu rhai newydd.

– Defnyddio prosiectau creadigol er mwyn dathlu a chynrychioli lleisiau nodedig yr ardal.

-Gweithio ar y cyd â phob oedran a gallu er mwyn meithrin  y syniad o le, gwerth a hyder.

– Gweithio gydag amryw o fudiadau lleol er mwyn datblygu cysylltiadau cryf ar draws y gymuned.

Rydym wastod wedi bod yn fudiad uchelgeisiol a chreadigol.  Rydym yn darparu gweithgareddau a gweithdai sy’n canolbwyntio ar y cymunedau llai yn ogystal â gweithgareddau ar gyfer trefi mwy ac rydym yn cyfrannu at neu’n cefnogi mudiadau a mentrau cymunedol.  Mae hyn yn ein galluogi i gynnig ystod eang o gyfleoedd i’r gymuned ac i ymwelwyr.

Rydym yn ymrywmo i’ch cadw yn ddiogel ar y wefan hon. 

Darllenwch ein Hysbyseb Preifatrwydd a’n Polisi Cwcis am fanylion pellach.

Gyda diolch i’n Cyfrannwyr

This website uses cookies to ensure you get the best experience.

You can view which ones and what they do by clicking this button.