This website uses cookies to ensure you get the best experience.
You can view which ones and what they do by clicking this button.
Chwedleuon yn dathlu’r Calendr Celtaidd a thraddodiadau lleol
Calan Mai yw Beltane, ennyd o egni yn y flwyddyn. Rydym yn diffodd hen fflamau a chynnau rhai newydd; rydym yn rhedeg pellteroedd ac yn neidio dros goelcerthi. Rydym yn addurno’n hunain, ein cartrefi, a’n ffynonellau dŵr gyda’r blodau mwyaf melyn a llachar. Dyma’r cyfnod i ddathlu ieuenctid, gweithwyr, a symbylu cryfder. Dyma’r bumed ddigwyddiad yn y gyfres The Gather in Collective, cydweithrediad rhwng tair chwedleuwr benywaidd – Maria Gillen o’r Iwerddon, Shona Cowie o’r Alban, a Kama Roberts o Gymru. Ymuna gwestai arbennig, Daniel Alison. Gyda diolch i James Jones-Morris am y gwaith celf.
Dyma’r bedwaredd ddigwyddiad mewn cyfres sy’n dathlu’r Calendr Celtaidd a chydweithrediad cyffrous rhwng tair chwedleuwr benywaidd – Maria Gillen o’r Iwerddon, Shona Cowie o’r Alban, a Kama Roberts o Gymru. Cyhydnos y Gwanwyn yw’r adeg pan ddaw popeth at ei gilydd yn berffaith. Mae’n gyfle i ddathlu’r tyfiant newydd sy’n blaguro o dywylltwch y gaeaf – ac mae’r rhan fwyaf ohonom wedi bod yn fwy ymwybodol o’r tywyllwch yn fwy nag erioed eleni.
Mae’r chwedleuwyr Maria Gillen, Shona Cowie a Kama Roberts yn dychwelyd gyda chwedlau a chaneuon o’u Gwledydd Celtaidd. Dyma’r drydedd ddigwyddiad gan y triawd, mewn cyfres sy’n dathlu’r calendr o rialtwch Celtaidd trwy chwedlau a thraddodiadau, hen a newydd, o’r Iwerddon, Alban a Chymru.
Mae’n hyfryd ein bod yn ymgasglu unwaith eto i rannu chwedlau o’r Iwerddon, yr Alban a Chymru. Fe fyddwn yn cydnabod doethineb yr hen draddodiadau ac yn gwneud rhai newydd wrth i ni ffarwelio â’r flwyddyn sydd wedi bod a chroesawu goleuni newydd, cynhesrwydd a bwriadau’r flwyddyn sydd i ddod. Yn yr hen amser roedd yn arferol i bobl Cymru gosod lle ychwanegol wrth y bwrdd ar gyfer unrhyw westai annisgwyl, ac yn yr un modd rydym yn gosod lle i chi – rydym yn eich gwahodd i fwyta ac i yfed gyda ni tra’n gwrando ar y chwedleuon.
Noson arbennig o chwedleuon Calan Gaeaf traddodiadol o dair wlad Geltaidd. Fe fydd y dair chwedleuwr (Maria Gillen, Shona Cowie a Kama Roberts) o’r Iwerddon, yr Alban a Chymru yn cyfuno eu traddodiadau, caneuon, a chwedlau i blethu taith hudol wedi’i hysbrydoli gan Samhain a Chalan Gaeaf.
Donations Gratefully Received – No PayPal Account Necessary!
CARAD, East Street, Rhayader, Powys LD6 5ER
Stryd y Dwyrain, Rhaeadr, Powys LD6 5ER
all@carad.org.uk | 01597 810 194
© CARAD 2022
Company Registered
England and Wales
3663661
Registered Charity
1073317
Cwmni Cofrestredig
Lloegr a Chymru
3663661
Elusen Cofrestredig
1073317
We are committed to keeping you safe on this website.
Please read our Privacy Notice and Cookie Policy for further details.
This website uses cookies to ensure you get the best experience.
You can view which ones and what they do by clicking this button.